O ddydd Llun 12 Ebrill, mae pob siop yn Wrecsam gan gynnwys manwerthu nad yw’n hanfodol yn gallu ailagor.
Bydd ein marchnad ac ardal fwyd (tecawê yn unig) ar agor 10am-4pm Llun-Sad.
Bydd masnachwyr cwrt bwyd dethol ar agor tan 6pm Llun-Sad ar gyfer tecawê.
Gweler ein cyfeirlyfr o fasnachwyr
Bydd ein maes parcio ar agor fel arfer. Gweler amseroedd agor a thaliadau.
Mae hwn yn amser pwysig i helpu i gefnogi ein busnesau lleol. Ond cofiwch – nid yw’r firws wedi diflannu ac mae’r un mor bwysig ag erioed i gadw’n ddiogel wrth i fesurau cloi i lawr gael eu lleddfu.
Rydym wedi cymryd mesurau i sicrhau y gallwch chi fwynhau’ch ymweliad yn ddiogel.
- Mae system unffordd gyda goleuadau traffig ar waith gyda chyfyngiadau ar faint o bobl a ganiateir yn yr adeilad ar unrhyw un adeg.
- Gofynnwn i bob ymwelydd barhau i ddilyn canllawiau pellhau cymdeithasol a gwisgo mwgwd wyneb oni bai ei fod wedi’i eithrio.
- Mae gorsafoedd glanweithio dwylo wedi’u gosod wrth y mynedfeydd.
Darganfod mwy am siopau canol tref Wrecsam yn ail agor