
FOCUS Wales
Mai 9

Mae gŵyl arddangos ryngwladol Wrecsam sydd wedi ennill llu o wobrau yn dychwelyd am ei 15fed flwyddyn!
Mae’r ŵyl yn rhoi sylw cadarn i’r dalent newydd sydd gan Gymru i’w chynnig i’r byd, ochr yn ochr â detholiad o’r actau newydd gorau o bob rhan o’r byd.
Disgwylir i dros 22,000 fynychu, gan adeiladu ar y presenoldeb uchaf erioed yn 2024 ar draws penwythnos llawn dop o ddigwyddiadau
Does dim lle fel Wrecsam yn ystod gŵyl arddangos ryngwladol FOCUS Wales, wrth i ni arddangos 250+ o artistiaid, llenwi amrywiaeth o ofodau a lleoliadau cerddoriaeth, defnyddio 20 llwyfan, a chynnal amserlen lawn o baneli diwydiant rhyngweithiol, digwyddiadau rhwydweithio, a dangosiadau ffilm, trwy gydol yr ŵyl.
Bydd Tŷ Pawb unwaith eto wrth galon yr ŵyl, gan gynnal prif swyddfa docynnau’r ŵyl, 2 lwyfan cerddoriaeth fyw, ynghyd â chynadleddau a digwyddiadau rhwydweithio.