Tŷ Pawb yw adnodd cymunedol diwylliannol Wrecsam sydd wedi ennill sawl gwobr, sy’n dod â’r celfyddydau a marchnadoedd ynghyd o fewn yr un ôl troed. Mae’r cydfodolaeth hwn yn dathlu arwyddocâd marchnadoedd o fewn treftadaeth ddiwylliannol a hunaniaeth Wrecsam.
Rydym yn cynnig gofod ar gyfer deialog ar bynciau gan gynnwys materion cymdeithasol a dinesig, yr amgylchedd, iechyd, hunaniaeth ddiwylliannol, cynaliadwyedd ac addysg.
Rydym yn cyflwyno rhaglen gyfoes o arddangosfeydd croesawgar a chynhwysol, prosiectau cymdeithasol a pherfformiad byw. Mae’r rhaglen yn pwysleisio sgiliau a chrefft, gan weithio gydag artistiaid newydd a sefydledig o bob cefndir.
Agorodd Tŷ Pawb am y tro cyntaf yn 2018 yn dilyn prosiect buddsoddi helaeth a gomisiynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyda chymorth ariannol ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Cynlluniwyd yr ailddatblygiad gan Sarah Featherstone o Featherstone Young.
Mae cyfleusterau Tŷ Pawb yn cynnwys dwy oriel, theatr/gofod perfformio, sawl ystafell gyfarfod, bar a chwrt bwyd a neuadd farchnad sy’n gartref i bron i 30 o fusnesau annibynnol lleol.


Tŷ Pawb is a Visit Wales Quality Assured Visitor Attraction


Ôl-ffitio Gorau y Flwyddyn a Adeilad Diwylliannol Gorau dan £5m (2019)

Enillydd y Fedal Aur am Bensaernïaeth 2019
Sylw o’r Wasg
Huw Stephens ar Tŷ Pawb | Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2022
(Crëwyd proffil Tŷ Pawb ar gyfer Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf)
Tŷ Pawb review – an art gallery that truly is everybody’s house
(Erthygl gan Rowan Williams yn The Guardian, 2018)
Something for everybody: Tŷ Pawb art gallery by Featherstone Young
(Proffil Tŷ Pawb o Architects ‘Journal, 2018)
Cyfrannwch i Tŷ Pawb
Cefnogwch ganolfan Ty Pawb gydag anrheg.
Gall rhoddion o unrhyw faint wneud gwahaniaeth mawr. Fe fydd eich anrheg hael yn helpu i gefnogi’r gwaith o redeg canolfan Ty Pawb o ddydd i ddydd, gan sicrhau y gallwn ni barhau i ddarparu ein rhaglen proffil uchel o arddangosfeydd hygyrch, digwyddiadau cymunedol diwylliannol, prosiectau sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol a pherfformiadau byw.