Mae’r rhaglen portffolio yn cynnig cyfleoedd ychwanegol ar gyfer phobl ifanc rhwng 14-18 oed sydd yn dangos addewid artistig i alluogi mynediad i lefel artistig uwch. Mae’r gweithdai yn hyrwyddo ymgysylltiad gydag artistiaid cyfoes a mynediad i dechnegau arbenigol o fewn celf a chrefft.
Ymhlith yr artistiaid eleni mae Menai Rowlands, Rachel Holian, Anya Paintsil a Wendy Connelly.
GWEITHDY 1
Rachel Holian – Gweithdy Clai
Dydd Sadwrn 12fed a Dydd Sul 13eg Fehefin 2021

“Yr hyn rydym yn darganfod wrth gerdded – Archwilio delweddau gweledol mewn bydoedd cyd”
Datblygwch eich sgiliau modelu 3D o fewn gweithdy dros ddau ddiwrnod wrth archwilio delweddau gweledol cyffres y byd naturiol. Byddwch yn gweithio gyda chlai sychwyd ag aer ac offer modelu clai gan greu ffurfiau organig cerfluniol wedi’u hysbrydoli gan risgl mwsoglau a ffyngau.
Mae Rachel yn ceremegydd a darlithydd Celf a Chrefft yn Coleg Cambria
GWEITHDY 2
Anya Paintsil – Gweithdy Tecstiliau
Dydd Sadwrn 19fed a Dydd Sul 20fed Fehefin 2021

Yn wreiddiol o Wrecsam mae Anya yn artist Ghanaian – Cymraeg. Mae gwaith Anya yn canolbwyntio ar yr hyn maent wedi’i dysgu tu allan i gyd-destunau addysg gelfyddydol gan weithio gyda dulliau bachu ryg, brodwaith a thechnegau gwallt afro i greu darnau o waith tecstilau.
Yn defnyddio hanesion personol, mae gwaith Anya yn ffocysu ar yr arwyddocâd hiliau a hunaniaeth ddu tu allan i ardaloedd trefol, ffeministiaeth, atgofion, adrodd straeon a ffantasiâu. Wedi graddio o Brifysgol MMU yn ddiweddar, bydd gweithdy portffolio Anya yn canolbwyntio ar decstilau.
GWEITHDY 3
Wendy Connelly – Dosbarth meistr mewn peintiadau olew
Dydd Sadwrn 26ain a Dydd Sul 27ain o Fehefin

Gwaith Wendy a’i stiwdio wedi’i adeiladu â llaw yn ei gardd a thu fewn i’r stiwdio.
Paent Olew, Archwilio Posibiliadau:
Yn ystod y gweithdy portffolio mi fyddai yn rhannu’r technegau mwyaf cyffroes o baentio olew. Byddaf yn arwain chi drwy’r broses o gymysgu lliwiau, gweithio gydag glazes, paentio ‘impasto’ a’r sawl gwead sydd ar gael gan wneud offer unigryw eich hun. Rwyf yn gwahodd chi i weld sut wyf yn gweithio, fy stiwdio a fy mhaentiadau diweddaraf. Bydd y gweithdy sydd dros ddau ddiwrnod yn darparu chi gyda mewnwelediad i’m harferion proffesiynol a chamau syml i ddatblygu hyder wrth weithio gyda phaent olew.
Rwyf wedi gweithio fel artist proffesiynol ers imi radio o Brifysgol Central St Martins ac wedi cael fy nghynrychioli gan lawer o orielau yn genedlaethol a rhyngwladol.
Gwefan Wendy
Instagram wendyconnelly_artist twitter @RAWiStudios
GWEITHDY 4
Menai Rowlands – Gweithdy Dylunio Cymeriad 3D Cerfluniol
Dydd Sadwrn 4ydd a Dydd Sul 5ed o Orffenaf 2021

Archwiliwch dechnegau dylunio a chreu model Cymeriad 3D unigryw eich hun gyda dylunydd Menai Rowlands. Dysgwch sut i archwilio, datblygu a …… eich syniadau gan ddefnyddio dulliau dylunio, paentio a modelu 3D papur.
Mae Menai Rowlands yn wneuthurwr dylunio sydd yn gweithio yng Nghaernarfon, Gwynedd gyda gradd BA(Hons) yn Dylunio Cynnyrch o Ysgol Gelf Abertawe yn 2015. Mae’n ymhyfrydu gan weithio gyda chyfryngau cymysg, cydweithrediad a rhannu syniadau gyda phobl greadigol.
Sut i ymgeisio
I archebu ar unrhyw un o’r gweithdai hyn, e-bostiwch eich dewis o weithdy/weithdai i:
Ellie Ashby Swyddog Dysgu Ffurfiol ar gyfer Tŷ Pawb ellie.ashby@wrexham.gov.uk
Bydd gwybodaeth ychwanegol a manylion ar gyfer pob gweithdy yn cael ei anfon allan ar ôl cadarnhau eich lle ar ôl y dyddiad cau.
Mae nifer gyfyngedig iawn o leoedd ar gael ym mhob gweithdy, bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ymhlith ymgeiswyr i sicrhau’r ymgysylltiad mwyaf posibl â chyfranogwyr pe bai gweithdai’n cael eu gordanysgrifio. Gall gwneud cais am fwy nag un gweithdy ond gall lleoedd cael eu lledaenu i roi cyfle i bob person gymryd rhan.
Oed: 14-18 mlwydd oed sy’n cymryd ei TGAU, Lefel A a BTEC Celf a Chrefft.
Lleoliad: Ar hyn o bryd bydd y gweithdai yn rhedeg ar-lein dros Zoom.
* Fodd bynnag, gyda chyfyngiadau yn codi, rydym yn cadw’r hawl i newid y lleoliad i Thy Pawb, bydd gweithdai cymdeithasol wyneb yn wyneb a ymgeiswyr yn cael gwybod am hyn ymlaen llaw.
Cost: £15 bob penwythnos, mae ‘buseries’ ar gael ar gyfer ymgeiswyr all derbyn FSM.
Bydd taliad ar gyfer hyn yn mynd trwy linc Eventbright unwaith mae eich lle wedi cadarnhau.
Amser rhedeg: Bydd y gweithdai yn rhedeg o 10.30yb – 3.30yp.
Deunyddiau: Bydd y deunyddiau’n cael eu darparu ar gyfer y gweithdai ac anfonir manylion pan fydd eich lle wedi’i gadarnhau.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Iau 27 o Fai neu cynt yn dibynnu ar y galw. Anogir ceisiadau cynnar oherwydd nifer y lleoedd sydd ar gael.