Matinée: Classical & Contemporary Concerts at Tŷ Pawb
Mehefin 7 @ 13:00 - 14:00

Matinée: Cyngherddau Clasurol a Chyfoes Amser Cinio Tŷ Pawb
1pm – 2pm
Am Ddim – Rydym yn Croesawu Rhoddion
Dydd Sadwrn 07fed o Fehefin
Mae ein rhaglen newydd Gwanwyn / Haf o gyngherddau clasurol a chyfoes amser cinio wedi cychwyn ac yn cynnwys perfformiadau cerddoriaeth fyw gan ystod amrywiol o gerddorion a genres. Gallwch fynychu’r cyngerdd yn ddigymell ar eich egwyl ginio, mae’r rhaglen yn para 45 i 55 munud ac yn aml yn arddangos cerddoriaeth siambr, datganiadau piano unigol, cerddoriaeth werin, gitâr glasurol a deuawd clasurol. Mae’r perfformiadau bob yn ail ddydd Mercher rhwng 1pm a 2pm yn ein Lle Perfformio, mae mynediad trwy roddion.
Fel y byddech yn ei ddisgwyl mewn cyngerdd amser cinio, bydd ein llys bwyd ar agor gan wasanaethu amrywiaeth o offrymau bwyd a diod blasus. Efallai y byddwch hefyd am wneud amser i ymweld â’r oriel cyn neu ar ôl y cyngerdd.

Croesawn Meilir Tomos i berfformio yn ein Cyngherddau Matinee Dydd Sadwrn. Mae Meilir yn un o artistiaid mwyaf beiddgar cerddoriaeth gyfoes, yn cyfuno crefft gân arbenigol gydag ymagwedd delynegol ddi-ofn a synwyredd sonig hynod eclectig.
Mae Meilir yn creu seinluniau arloesol gyda chymysgedd idiosyncratig o biano, gitâr, a syntheseiswyr amrywiol gydag offeryniaeth mor annhebygol â phiano bawd, teipiadur hynafol, gwydrau gwin a hyd yn oed hambwrdd llawn graean. Peidiwch â cholli’r sioe un tro hon! Bydd Meilir yn perfformio rhai o’i gyfansoddiadau ei hun yn ogystal â gweithiau gan y cyfansoddwyr Philip Glass, Chilly Gonzales a Nils Frahm. Bydd Meilir hefyd yn taflu ambell syrpreis i’r set drwy perfformio rhai o’i hoff ganeuon.