Loading Digwyddiadau

« All Digwyddiadau

Wrecsam2029: Sesiwn Galw Heibio Tŷ Pawb

Mai 6 @ 17:30 - 19:30

Dewch i glywed mwy am gais Wrecsam i Ddinas Diwylliant y DU 2029.

Mae Wrecsam yn gwneud cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029 – teitl mawreddog a fyddai’n gweld Wrecsam yn cyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau diwylliannol ledled y sir yn ystod y flwyddyn 2029.

Byddai sicrhau’r teitl yn dod â manteision economaidd a chymdeithasol sylweddol i Wrecsam, gan ddenu mewnfuddsoddiad, creu swyddi, cynyddu mynediad at weithgaredd diwylliannol a rhoi cyfle i ni adrodd stori Wrecsam ar raddfa genedlaethol.

Mae cymuned wrth wraidd cais Wrecsam. Bydd ennill y teitl yn broses gydweithredol a fydd yn ymgysylltu â phobl a chymunedau lleol, sefydliadau diwylliannol, busnesau a chyrff sector cyhoeddus, wrth i ni weithio gyda’n gilydd i arddangos lleisiau gwir ac amrywiol Wrecsam.

Er nad yw’r broses gynnig ffurfiol ar gyfer 2029 wedi agor eto, rydym wedi bod yn brysur y tu ôl i’r llenni yn sefydlu ‘Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliannol Wrecsam’ newydd, a rhoi popeth sydd ei angen arnom yn ei le fel y gallwn ddechrau cyn gynted ag y bydd hynny’n digwydd.

Os hoffech ddarganfod mwy am ein taith hyd yn hyn, rydym yn cynnal cyfres o 6 sesiwn galw heibio ym mis Ebrill a Mai mewn gwahanol leoliadau ledled Sir Wrecsam. Bydd y sesiynau yn rhoi cyfle i:

Cwrdd â Thîm Dinas Diwylliant
Clywed am ein cynnydd hyd yma
Rhannu eich syniadau ar gyfer Cais Dinas Diwylliant y DU Wrecsam2029

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi i drafod y cyfle cyffrous hwn i Wrecsam!

Am fwy o wybodaeth am Ddinas Diwylliant y DU a’r hyn y mae’n ei olygu i Wrecsam, ewch i’n gwefan: www.wrecsam2029.cymru

Am fwy o wybodaeth am ein Sesiynau Galw Heibio Cymunedol, cysylltwch â’r tîm drwy e-bost: cyswllt@wrecsam2029.cymru

Cofrestrwch i fynychu

Manylion

Dyddiad:
Mai 6
Amser:
17:30 - 19:30
Event Category: