Matinée: Cyngherddau Clasurol a Chyfoes Amser Cinio Tŷ Pawb

Tŷ Pawb Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / Wrexham

Rydym yn croesawu myfyrwyr o Ysgol Gerdd Chetham i berfformio ein cyngerdd olaf o'r gyfres hon. Mae gan Ysgol Gerdd Chetham enw da ledled y byd am gynhyrchu cerddorion rhagorol.
Ar ddydd Mercher Ebrill 30ain byddwn yn cael perfformiad gan sacsoffonydd a sielydd yn chwarae ochr yn ochr â'r cyfeilydd piano anhygoel Gemma Webster.