Noson gyda’r Delynores Sioned Williams yn Tŷ Pawb
Tŷ Pawb Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / WrexhamYmunwch â Sioned Williams am noson gyffrous o straeon a cherddoriaeth o’i gyrfa ddisglair, wrth iddi berfformio cerddoriaeth ‘o hynny hyd yn hyn’ sy’n adlewyrchu digwyddiadau allweddol yn ei bywyd, gan ganolbwyntio ar yr angerdd sydd ganddi dros berfformio a chreu. Mae Sioned yn plethu ei stori gyda geiriau ac anecdotau, teimlad dwys a digonedd o hiwmor!