Rydym yn falch iawn o gynnal dychweliad yr arddangosfa fawreddog, flynyddol Print Rhyngwladol.
Bydd Print Rhyngwladol 2021 yn cynnwys 139 darn o waith celf gan artistiaid o 10 gwlad gan gynnwys yr Almaen, America, Ffrainc, Awstralia, Canada, Rwsia, Gwlad Pwyl, Sbaen – a Chymru wrth gwrs!
Daw hyn yn dilyn ymateb aruthrol i alwad agored eleni gyda dros bedwar cant o weithiau celf wedi’u cyflwyno.
Ymhlith yr arddangosfa hon mae yna hefyd waith celf dan sylw artistiaid, ymarferwyr ac addysgwyr o’r Ganolfan Argraffu Ranbarthol i ddathlu ei 20fed Pen-blwydd.
Gwobrau i’w dyfarnu
- Rhoddir gwobrau mewn pedwar categori:
- Gwobr Papur John Purcell
- Printmaking Today Golygyddol
- Cyfleoedd y Ganolfan Argraffu Ranbarthol
- Gwobr y Beirniaid o £1000.
Y beirniaid eleni yw Leonie Bradley (Golygydd Printmaking Today, artist ac aelod etholedig o Gymdeithas yr Engrafwyr Pren), Tracy Hill (Artist, Stiwdio Argraffu Cyfoes Artlab Artiate Associate Research, UCLan.) A Nigel Morris (Artist / Printmaker, Hwylusydd , Cydlynydd CAR).
Arddangosfa y gall pawb ei mwynhau
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones: “Mae Print Rhyngwladol yn un o wir uchafbwyntiau calendr arddangosfeydd Tŷ Pawb. Gyda 139 o weithiau celf yn cael eu cynnwys gan artistiaid o 10 gwlad wahanol, mae’r amrywiaeth o arddulliau, lliwiau a syniadau sy’n cael eu harddangos yn ei gwneud yn arddangosfa hynod bleserus a hygyrch i bob oedran.
“Mae’n arddangosfa ddelfrydol ar gyfer teuluoedd a bydd plant hefyd yn gallu mwynhau gweithgareddau arbennig ar thema’r arddangosfa yn ystod gwyliau’r Nadolig.
“Bydd Tŷ Pawb yn llawn o weithgareddau dros yr wythnosau nesaf gyda siopwyr Nadolig yn ymweld â’r marchnadoedd, cynnig bwyd a diod gwych, cerddoriaeth fyw, nosweithiau comedi a llawer mwy. Byddwn yn argymell yn fawr i bob ymwelydd alw heibio i’r oriel yn ystod eu hymweliad ac i dreulio peth amser hamddenol yn archwilio sioe fendigedig. “
- Bydd Print Rhyngwladol 2021 ar agor rhwng dydd Sadwrn 4ydd Rhagfyr a dydd Sadwrn 26 Chwefror.
- Oriau agor yr oriel yw 10am-4pm, Llun-Sadwrn.
Diolch yn arbennig i noddwyr yr arddangosfa, John Purcell Paper, Canolfan Argraffu Ranbarthol, cylchgrawn Printmaking Today a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Credyd delwedd: Artist gan Graeme Reed