Mae Tŷ Pawb yn gartref i gymuned fywiog o fusnesau lleol balch – dathliad o dreftadaeth tref farchnad Wrecsam.
Archwiliwch drysorfa o syniadau am anrhegion ysbrydoledig, crefftau wedi’u gwneud â llaw, pethau casgladwy a llawer mwy.
Mae digwyddiadau arbennig gan gynnwys marchnadoedd dros dro, ffeiriau crefftau, cerddoriaeth fyw a chwaraeon yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn, gan wneud Tŷ Pawb yn ddiwrnod allan gwych i siopwyr ac ymwelwyr o bob oed.