Ydych chi’n chwilio am leoliad unigryw ac amlbwrpas yng nghanol dinas Wrecsam i gynnal cyfarfod neu ddigwyddiad?
Mewn lleoliad delfrydol, dim ond ychydig funudau ar droed o ganol dinas fwyaf Gogledd Cymru, mae Tŷ Pawb yn cynnig lleoliad unigryw, amlbwrpas ac addasadwy sy’n gallu cynnal digwyddiadau o bob lliw a llun.
O gyfarfodydd preifat a gweithdai i gynadleddau mawr, ffeiriau crefft a masnach, ymgynghoriadau cyhoeddus, gwyliau cerdd, dangosiadau ffilm a llawer mwy – oll wedi’u gosod yn erbyn cefndir bywiog y farchnad brysur, yr ardal fwyd a’r oriel.
- Opsiynau arlwyo
- Wi-Fi am ddim
- Maes parcio aml-lawr ynghlwm wrth y prif adeilad
Codi mynediad i bob ystafell/gofod

Y Gofod Perfformio
Mae ein gofod perfformio gyda chapasiti eistedd o 109 yn berffaith ar gyfer cynadleddau, cyflwyniadau, perfformiadau a digwyddiadau ac mae modd ei addasu i weddu i’ch anghenion.
Gydag offer clyweledol integredig ar gael yn ogystal â llawr meddal mae’n berffaith ar gyfer dawns, ioga a mwy.

Ystafell Gyfarfod
Wedi’i leoli ar lawr cyntaf Tŷ Pawb, gall ein Hystafell Gyfarfod letya hyd at 20 o bobl ar gyfer cyfarfodydd preifat.

Y Gofod Hyblyg
Mewn ardal fwy cyhoeddus o’r adeilad mae Sgwâr y Bobl yn berffaith ar gyfer partïon pen-blwydd, gweithdai, hyrwyddiadau cynnyrch, ffeiriau recordiau a llawer mwy.
Mae gan y gofod ei rig goleuo ei hun, taflunydd gyda gollwng sgrin fawr a bar cyhoeddus ar gais gan ei wneud yn lle gwych ar gyfer cerddoriaeth a digwyddiadau byw.

Stiwdio Ddysgu
Gall y lle hwn letya hyd at 20 o bobl a gellir ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys dosbarthiadau preifat, sesiynau crefft, cyfarfodydd a gweithdai.