Scroll Top

Dathlwyd diwydiant teils a theracota Wrecsam yn comisiwn newydd Wal Pawb

Mae darn mawr newydd o waith celf cyhoeddus yn dod i Tŷ Pawb ym mis Hydref, wedi’i ddatblygu gan yr arlunydd Lydia Meehan fel rhan o’n comisiwn blynyddol, Wal Pawb. 

Mae diwydiant teils a terracotta toreithiog Wrecsam yn llunio’r sail weledol a chysyniadol ar gyfer gwaith Lydia Meehan, o’r enw ‘Wal Pawb a Mannau Cyfarfod Eraill’. 

Byddwn yn dadorchuddio’r gwaith yn swyddogol ddydd Gwener, 2 Hydref, yn ogystal â digwyddiad agoriadol Arddangosfa Agored Tŷ Pawb

Pwyntiau cyfarfod rhwng celf a bywyd bob dydd

Gan ystyried y broses o greu waliau yn un artistig a swyddogaethol, mae Lydia’n pwysleisio’r mannau lle mae celf yn cwrdd â phethau bob dydd. Drwy gyfeirio at fyrddau tair delwedd Wal Pawb fel trothwyon, mae Lydia’n defnyddio manylder pensaernïol y mowldin i lunio cymhariaeth rhwng nodweddion brics addurniadol drysau a chydfodolaeth yr oriel gelf a’r farchnad yn Tŷ Pawb. 

Mae cyfuniad o gyfeiriadau gweledol a thestun yn cynnig y mowldinau fel modelau a thempledi ar gyfer y gydfodolaeth hon. 

Gan feddwl am bob un o droadau 120 gradd y byrddau tair delwedd fel troi tudalen, mae’r dyluniadau’n cymryd ysbrydoliaeth o gatalogau hanesyddol sy’n arddangos dyluniadau artistig cwmnïau terracotta lleol. 

Cyhoeddiad ac arddangosfa newydd eto i ddod

Mae Wal Pawb a Phwyntiau Cyfarfod Eraill yn cynnwys cyhoeddiad wedi’i ddylunio gan yr arlunydd, gan ddod â detholiad o waith a phrosesau yn ymwneud â byrddau celf Lydia ynghyd. Caiff y cyhoeddiad ei lansio ym mis Ionawr 2021 ynghyd ag arddangosfa o waith celf a ysbrydolwyd gan dreftadaeth terracotta Wrecsam ac arteffactau o Amgueddfa Wrecsam. 

Mae’r cyhoeddiad yn cymryd ei ysbrydoliaeth o’r diwydiant terracotta lleol, o Arddangosfa Ddiwydiannol Celf a Thrysorau Gogledd Cymru, a gynhaliwyd yn Wrecsam ym 1876, ac o’r masnachwyr ym marchnadoedd Wrecsam. 

Artist lleol yn ymddangos

Elfen arall o’r prosiect hwn yw’r papur lapio a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer y masnachwyr ym marchnad Tŷ Pawb. Mae’r papur yn cynnwys enghreifftiau o fowldinau terracotta gan yr arlunydd lleol, Liam Stokes-Massey, neu’r Pencil Craftsman

Mae comisiwn Lydia wedi cynnwys Taith Gerdded Wrecsam, gweithdai a chydweithrediad â masnachwyr a’r gymuned ehangach.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones: “Mae byrddau posteri Wal Pawb wedi datblygu i fod yn un o’r nodweddion mwyaf poblogaidd ac adnabyddus yn Tŷ Pawb, gan ddarparu cefnlen ddynamig ac arbennig i’r mannau cyhoeddus a’r holl ddigwyddiadau poblogaidd a gaiff eu cynnal yno. 

“Edrychwn ymlaen at ddadorchuddio dyluniadau newydd a ffantastig Lydia ym mis Hydref,  y trydydd comisiwn Wal Pawb ers agor Tŷ Pawb yn 2018. 

 “Yn yr un modd ag arddangosiadau blaenorol Tŷ Pawb, mae cysylltiad cryf gyda threftadaeth Wrecsam yn y gwaith, i ddathlu cydfodolaeth celf a marchnadoedd o dan un to. Rwy’n siŵr y bydd hanes diwydiant terracotta Wrecsam ynghyd â’r arddangosfa cysylltiedig a phrosiect papur lapio Liam Stokes-Massey o ddiddordeb arbennig i ymwelwyr.” 

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb